Diolch am ddewis adrodd yn ddienw. Rydym yn deall y gallai hwn fod yn gyfnod anodd i chi, ac rydym am helpu i’ch cysylltu â chymorth.
Mae dewis adrodd yn ddienw yn golygu efallai na fyddwn yn gallu eich helpu yn uniongyrchol ond gallwn helpu eraill. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni heddiw yn ein helpu i roi gwell cymorth i eraill a llywio gwaith atal ar draws y brifysgol. Fodd bynnag, ni fydd adrodd yn ddienw yn arwain at gymryd camau ffurfiol.
Os hoffech siarad â rhywun, neu os oes angen cymorth neu arweiniad uniongyrchol arnoch, neu os hoffech i ymchwiliad ffurfiol gael ei gynnal, dewiswch siarad â chynghorydd.
Mae eich data yn bwysig i ni. Ni fyddwn yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy’n mynd yn groes i’n hysbysiad preifatrwydd.