Os ydych chi’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef gwahaniaethu, mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi eu helpu. 
 
Mae deall yr ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu yn lle da i ddechrau. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu disgrifio beth sydd wedi neu sy’n digwydd iddynt a sut mae hynny’n gwneud iddynt deimlo. 
 
Mae gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp o bobl yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill ar sail nodwedd warchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth), beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw neu rywedd, cyfeiriadedd rhywiol. 
 
Mae gwahaniaethu yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010
 
Meddyliwch
  • Beth yw gwahaniaethu? Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am yr hyn sy’n gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon. 
Siaradwch 
  • Gwrandewch. Gall treulio amser yn gwrando ar rywun a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd helpu. Gallai’r chwe chyngor gwrando gweithredol hyn eich helpu i gefnogi’r unigolyn. (Fe’u cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2015 ac maent yn seiliedig ar ganllawiau’r Samariaid ar gyfer gwrando gweithredol). 
  • Rhowch opsiynau. Pan fydd yr unigolyn wedi gorffen siarad, gofynnwch iddo ef neu hi a yw’n hapus i drafod opsiynau posibl a’r camau nesaf. 
Adroddwch 
  • Adrodd a Chymorth. Gall myfyrwyr a staff adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd a Chymorth y Brifysgol. Gallant ddewis gwneud hyn yn ddienw neu ofyn am gymorth gan gynghorydd. Os dewisant siarad â chynghorydd bydd yn gallu trafod yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael, yn gyfrinachol. 
  • Gweithdrefn y Brifysgol. Os byddant yn dewis gwneud cwyn ffurfiol i’r Brifysgol ynglŷn â myfyriwr neu aelod o staff, mae gweithdrefnau sy’n nodi’r camau y bydd angen iddynt eu dilyn. 
Ceisiwch Gymorth 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd