Nid yw ymosodiad o unrhyw fath yn dderbyniol. Rydym yn condemnio ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys ymosodiadau, aflonyddu a throseddau casineb. 
 
Beth yw ymosodiad? 
Mae gwahanol fathau o ymosodiadau, gan gynnwys ymosodiadau geiriol ac ymosodiadau corfforol a amlinellir isod. I gael gwybodaeth am ymosodiadau rhywiol, ewch i’n tudalennau camymddwyn rhywiol ac ymosodiadau. 
 
Ymosodiad geiriol 
Mae ymosod geiriol yn ei gwneud hi’n drosedd defnyddio iaith fygythiol, cam-driniol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun arall. 
 
Ymosodiad corfforol 
Ymosodiad corfforol yw unrhyw weithred lle mae person yn fwriadol neu’n ddi-hid yn achosi i rywun arall ddioddef neu fod ofn trais anghyfreithlon uniongyrchol. Mae’r term ymosodiad yn cael ei ddefnyddio’n aml i gynnwys curo, a wneir drwy ddefnyddio grym anghyfreithlon yn erbyn person arall yn fwriadol neu’n ddi-hid. 
 
Beth yw troseddau casineb? 
Unrhyw drosedd y mae’r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn teimlo sydd wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn, yn seiliedig ar anabledd neu anabledd canfyddedig; hil neu hil canfyddedig; crefydd neu grefydd canfyddedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig neu hunaniaeth drawsryweddol neu hunaniaeth drawsryweddol ganfyddedig person. 
 
Mae enghreifftiau o droseddau casineb yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • ymosodiad corfforol 
  •  cam-drin geiriol, bygythiadau neu alw enwau 
  •  annog casineb, pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn modd sy’n fygythiol ac y bwriedir iddo ysgogi casineb. Gallai hyn fod ar ffurf geiriau, lluniau, fideos, cerddoriaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth ar wefannau. 
Beth allwch chi ei wneud? 

Siarad - Os effeithiwyd ar rywun yr ydych yn ei adnabod, gallwch annog yr unigolyn i geisio cymorth. Neu, gallwch wneud datgeliad dienw a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i weld a oes nifer o achosion mewn un maes. 

Darganfod mwy: 
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu rhagor o wybodaeth am aflonyddu anghyfreithlon. 

Ceisio cymorth - Mae yna nifer o sefydliadau arbenigol sy’n darparu cymorth arbenigol, gan gynnwys cwnsela, i’r rheini yr effeithir arnynt gan aflonyddu. Gallech annog eich cydweithiwr i estyn allan am gymorth o’r fath. 
 
Edrychwch ar ein tudalennau cymorth arbenigol i weld rhestr lawn o’r cymorth sydd ar gael. 
Nôl

Mae dwy ffordd y gallwch ddweud wrthym beth ddigwyddodd